Newyddion
22.06.20 Llythyr i Rieni a Gofalwyr gan Cyngor Gwynedd
Ysgrifennais atoch ar 15 Mehefin yn amlinellu ein cynlluniau yng Ngwynedd mewn perthynas â chyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynglŷn ag ysgolion yn ailagor yn rhannol ar sail ‘dod i’r ysgol, dal ati i ddysgu, paratoi ar gyfer yr haf a mis Medi’.
Fe wnaeth y cyhoeddiad gwreiddiol ddatgan y byddai hyn am gyfnod o bedair wythnos o 29 Mehefin. Mae'r Cyngor yn ddiolchgar am yr holl waith caled y mae'r ysgolion yn ei wneud i baratoi ar gyfer y 29ain...
Darllen fwy am ddiweddariad gan Gyngor Gwynedd parthed agor ysgolion.
08.06.20 Dod i’r Ysgol, Dal Ati i Ddysgu, Paratoi ar gyfer yr Haf a Mis Medi
Brynhawn ddydd Mercher, 03/06/2020,, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, fanylion y cam nesaf i ysgolion yng Nghymru, gan roi cyfle i'ch plentyn “Ddod i’r Ysgol, Dal Ati i Ddysgu, Paratoi ar gyfer yr Haf a Mis Medi”. Yn y datganiad hwn, cadarnhaodd y Gweinidog y bwriad i ysgolion gynllunio i ddechrau'r cyfnod nesaf ar 29 Mehefin, gyda thymor yr Haf yn cael ei ymestyn o wythnos, a gorffen ar 27 Gorffennaf. Ar ben hynny, bydd wythnosau olaf tymor yr Haf yn cael eu defnyddio i ofalu bod disgyblion, staff a rhieni yn cael eu paratoi - yn feddyliol, yn emosiynol ac yn ymarferol - am y normal newydd ym mis Medi. Bydd hanner tymor yr Hydref yn cael ei ymestyn i bythefnos.
12.03.20 Coronafeirws Newydd (COVID-19)
Cyngor i rieni neu ofalwyr
Bydd y canllawiau hyn yn cynorthwyo ysgolion, lleoliadau gofal plant a lleoliadau addysgol eraill wrth roi cyngor i ddisgyblion, myfyrwyr, staff a rhieni neu ofalwyr ynghylch:
1. Coronafeirws Newydd (COVID-19)
2. Sut i atal clefyd rhag lledaenu
3. Achosion a chysylltiadau mewn lleoliadau addysgol a gofal plant
Cliciwch yma i ddarllen mwy am gyngor i rieni neu ofalwyr ynglŷn â Coronafeirws
©2021 Hawlfraint Ysgol Hafod Lon. Gwefan gan: Delwedd